Nerfau
Ni wedi penderfynu rhoi’n hunai’n drwy’r Felin unwaith eto, recordio pum cân yn hollol fyw, a gwaeth fyth cofnodi’r cwbl ar fideo. Mewn byd ble mae technoleg stiwdio yn gallu trwsio pob camgymeriad a rhoi sglein ar y sain, mae hwn yn mynd yn groes i’r graen.Hwn yw’r ffordd anoddaf i recordio. Dim aml drac, dim ail gyfle, dim hud a lledrith y peiriannydd, dim auto tune na click track, dim tricks, dim flicks – jest sŵn amrwd y band.
Blas yr amrwd.
Pam dewis gwneud hyn te ? Cwestiwn da, pam fyddai unrhyw fand yn dewis rhoi eu hunai’n drwy’r uffern yma pan mae technoleg recordio yn gwneud popeth mor hawdd? A dyma’r ateb – mae’n well heb y dechnoleg. Mae’n fwy gonest ac mae’n fwy real.
Ni’n byw mewn oes lle mae’r gwybodusion yn cadw gweud wrthym fod technoleg yn gallu gwella pop dim – “A.I, pam lai, hwp e ar bopeth”
Ond mae’r natur ddynol yn golygu ei’n bod ni’n ysu am y gwirioneddol yn hytrach na’r artiffisial, y dilys yn hytrach na’r ffug, blas y cîg yn hytrach na gormod o garnish. Ni’n ysu am emosiwn a theimlad mewn cân. Ni moyn cadw camgymeriadau’r cerddor yn hytrach na chyfrifiadur yn tacluso a chynhyrchu pob owns o wreiddioldeb allan o bob dim. Fel wedodd Neil Young – “Nobody ever bought an album because it was perfectly in time.”
Odi’r band yn barod i recordio’n fyw ?
Yr ateb yw na, wrth gwrs ei’n bod ni ddim. Pwy yn ei iawn bwyll fyddai’n dewis rhoi eu hunain yn y fath sefyllfa, yn hollol agored i wawd. Sefyll yno yn edrych ar ei’n gilydd gyda’r tensiwn trydanol yn llenwi’r stiwdio.
Ni gyd yn delio gyda’r nerfau mewn ffyrdd gwahanol. Rob y drymiwr yn cwyno am ei beswch a’i wynegon. Bets yn symud o gwmpas fel lleuen mewn crachen. Norm yn ymarfer llinellau bâs drosodd a throsodd ar goll yn ei fyd bach ei hunan. Finnau yn siarp ac yn gyntachlud, yn methu tiwnio’r gitar ac yn barod i ddechau dadl am y peth lleiaf.
Ac yna ma’ Rob yn cyfrif ni mewn “un, dau, un dau tri pedwar” (yr unig Gymraeg mae’n gwybod) a ni mewn. A yna fi’n deall pam ni neud e, y teimlad, y pŵer, yr egni, y pedwar ohonom yn rhan o beiriant rockabilly ddi gyfaddawd. Neis fel Pwdin Reis.Blog

Leave a comment